CEFNOGAETH YNG NGHYMRU Support in Wales
Rydym yn paratoi’r garfan nesaf o fenywod i fynd i mewn i wleidyddiaeth yng Nghymru, ac rydym am i chi fod yn rhan ohoni.
We're preparing the next cohort of women entering Welsh politics, and we want you to be a part of it.
Gydag etholiadau lleol yn cael eu cynnal fis Mai nesaf, nawr yw’r amser i fod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth. Archwiliwch a allai bod yn gynghorydd fod yn addas i chi, a chynlluniwch sut i gyrraedd yno gyda chefnogaeth ac adnoddau am ddim gan Elect Her.
With local elections taking place next May, now is the time to be getting active in politics. Explore whether becoming a councillor could be right for you, and plan how to get there with Elect Her’s free resources and support.
Dim ond 36% o’r cynghorwyr presennol yng Nghymru sy’n fenywod. Nid yw hynny’n ddigon. Os ydych yn poeni am eich cymuned leol, yn mwynhau helpu eraill a chreu newid cadarnhaol, neu’n credu y dylai profiad bywyd a sgiliau bywyd go iawn lywio’r broses o lunio polisïau, yna dyna’n union sydd ei angen ar ein systemau gwleidyddol.
Only 36% of current councillors in Wales are women. This is not enough. If you care about your local community, enjoy helping others and creating positive change, or think that lived experience and real life skill sets should inform policy making, then you’re exactly what our political systems need.
P’un a ydych yn weithgar yn wleidyddol ar hyn o bryd ai peidio – byddwn yn darparu’r adnoddau i’ch helpu i ddeall beth yw gwleidyddiaeth leol mewn gwirionedd a sut y gallwch wneud gwahaniaeth go iawn. Whether you’re politically active right now or not - we will provide you with the resources to help you understand what local politics truly is and how you can make a real difference.
Drwy gydol 2026, mae gennym raglenni ac adnoddau hunan-arweiniol anhygoel wedi’u trefnu i’ch tywys, o ‘Ready to Get Involved’ i ‘Getting Ready to Stand’ ym mis Mai 2027, fel y gallwch chi fod yr un sy’n gwneud newid. Across 2026, we have incredible programmes and self-led resources lined up to take you from Ready to Get Involved to Getting Ready to Stand in May 2027, so you can be the one to make a change.
Rhowch gynnig arni drwy ymuno â gweithdy ar-lein am ddim i ddysgu’r pethau sylfaenol am fod yn gynghorydd gan fenywod sydd eisoes yn y rôl. Dip your toe in and join a free online workshop to learn the basics about being a councillor from women already in the role.
Ewch yn ddyfnach gyda’n canllaw hunan-arweiniol.
Rydym wedi casglu popeth sydd angen i chi ei wybod mewn un canllaw hygyrch. Dysgwch fwy am yr ymarferoldeb, y meini prawf cymhwyster a’r pryderon cyffredin sydd gan fenywod ynghylch dod yn gynghorydd yma.
Dive into more detail with our self-led guide.
We’ve gathered everything you need to know into one accessible guide. Learn more of the practicalities, eligibility and frequent concerns women have about becoming a councillor here.
Bydd My Political Future yn mynd â chi ar daith tair rhan wrth i chi fapio’r camau nesaf tuag at ddod yn gynghorydd. Os ydych wedi gwneud y penderfyniad i fod yn weithgar yn wleidyddol ac eisiau deall pa gamau i’w cymryd i wireddu hynny, bydd yr adnodd hunan-arweiniol hwn yn eich helpu i fyfyrio ar eich angerddau a chreu cynllun gweithredu tuag at swydd etholedig, gan ddysgu o brofiadau pobl eraill ac adnoddau Elect Her. My Political Future will take you on a three part journey as you map out the next steps towards becoming a councillor. If you've made the decision to get politically active and want to understand what steps to take to make that a reality, this self-led resource will help you reflect on your passions and create an action plan towards elected office, learning from the experiences of others and Elect Her’s resources.
Mae ein Cylchoedd Cymorth Cymheiriaid yn ffordd berffaith o gysylltu â menywod eraill wrth i chi archwilio eich llwybr i mewn i wleidyddiaeth gyda’ch gilydd. Our Peer Support Circles are the perfect way to connect with other women as you explore your pathway into politics together.
“Roedd codi fy llaw a dweud “Hoffwn sefyll” yn teimlo fel cam enfawr ymlaen ac ar yr un pryd yn gam eithaf mawr i’r tywyllwch. Fe wnaeth cymryd rhan yn y Cylchoedd Cymorth Cymheiriaid droi’r golau ymlaen a’m helpu i weld yn glir y mathau o hunanddatblygiad y byddai angen i mi eu gwneud ar y daith tuag at geisio enwebiad.
To hold your hand up and say ‘I would like to stand’ felt like a huge step forward and also quite a large step into the dark. Taking part in Peer Support Circles turned on the light and helped me to clearly see the types of self development that I would need to undertake on the journey to pursuing candidacy.”
Adeiladwch rwydwaith cymunedol o ddarpar ymgeiswyr ledled Cymru wrth gynllunio eich llwybr gwleidyddol. Bydd y cwrs 7 wythnos hwn gyda chymheiriaid o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol yn eich helpu i fireinio’r sgiliau a’r cryfderau personol sydd gennych yn barod i’ch rhoi eich hun ymlaen ar gyfer dethol ac etholiad. Bydd ein 13eg Cohort yn cael ei gynnal yn Hydref 2026. Build a community network of aspiring candidates across Scotland whilst planning your political pathway. This 7-week course with peers from across the political spectrum will help you hone the personal skills and strengths you have, ready to put yourself forward for selection and election. Our 13th Cohort will take place in Autumn 2026.
Yn barod i wneud newid? Ready to make a change?
Cofrestrwch heddiw i gymryd rhan a byddwn yn anfon ein holl adnoddau am ddim atoch, yn ogystal ag atgofiadau rheolaidd am ddigwyddiadau ac anogaeth. Byddwch ymhlith y cyntaf i wybod pan fydd ceisiadau ar gyfer Cohort 13 y Cylchoedd Cymorth Cymheiriaid yn agor hefyd. Sign up today to get involved and we’ll send you all of our free resources, as well as regular reminders for upcoming events and words of encouragement. You’ll be the first to know once our Peer Support Circles Cohort 13 applications go live, too.
Unwaith y byddwch yn barod i droi eich syniadau yn weithredau, byddwn yn eich helpu i baratoi ar gyfer Dethol ac Etholiad. Once you're ready to turn your ideas into action, we'll help you prepare for Selection and Election.
Mae ein rhaglen Equip Her wedi’i chynllunio i roi popeth sydd ei angen arnoch i redeg eich ymgyrch ymgeisydd eich hun. O roi eich hun ymlaen ar gyfer dethol, i ddyddiau curo drysau cyn y bleidlais, rydym wedi casglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio, cyllidebu a chynnal ymgyrch etholiadol. Bydd ein cyfres o sesiynau hyfforddi byw yn cael eu lansio yn ystod Gaeaf 2026. Our Equip Her programme is designed to provide you with all you need to run your own candidate campaign. From preparing for your selection interview, to door knocking days before polling, we have compiled all the information you need to plan, budget and deliver an election campaign. Our series of live training sessions will launch Winter 2026.
Dysgwch gan y rhai sydd wedi mynd o’ch blaen. Learn from those before you.
Gwrandewch ar straeon menywod anhygoel sydd eisoes mewn swydd etholedig yng Nghymru i ddeall sut y cyrhaeddon nhw yno, a sut y gallwch chi wneud hynny hefyd. Listen to the stories of incredible women already in elected office in Wales to understand how they got there, and how you can too.
Eisoes mewn swydd etholedig? Rydym yma i’ch helpu i ystyried a yw sefyll eto am dymor arall yn iawn i chi. Already in elected office? We’re here to help you consider if re-standing for another term is right for you.
“Fe wnaeth rhaglen hyfforddi Elect Her fy helpu i gymryd stoc o’r hyn roeddwn eisoes wedi’i gyflawni, tawelu fy imposter syndrome a’m pryder, fy helpu i edrych ar bethau o safbwynt gwahanol a mabwysiadu dulliau gwahanol. Erbyn y sesiwn olaf, roeddwn yn llawer mwy hyderus a chyfforddus yn fy rôl.
The Elect Her coaching programme helped me take stock of what I had already achieved, tamed my imposter syndrome and anxiety, helped me look at things from a different perspective and take different approaches. By the last session, I was much more confident and comfortable in my role.”
Os ydych yn gynghorydd presennol, mae ein rhaglen hyfforddi pro-bono 6 mis yn barod i’ch cefnogi i fyfyrio ar eich tymor hyd yma, p’un a ydych am roi eich hun ymlaen yn yr etholiad nesaf a beth ddylai eich camau nesaf fod. Cofrestrwch dros yr haf gyda sesiynau’n dechrau o Hydref 2026. If you’re a current councillor, our 6-month pro-bono coaching programme will support you to reflect on your term to date, whether you want to put yourself forward at the next election and your next steps. Register over the summer with sessions starting from Autumn 2026.
Ble bynnag rydych ar eich taith, trefnwch apwyntiad 1-i-1 am ddim i gael cyngor personol gan ein tîm o arbenigwyr. Wherever you’re at on your journey, book a free 1-1 appointment to receive personalised advice from our team of experts.
Cam Cyntaf i Sefyll First Step to Stand
If you work in a local authority, access our free workshop toolkit to run your own Elect Her style workshop and help encourage women in your community to consider standing in the 2027 local elections.