Back to All Events

Byddwch yn Gynghorydd yng Nghymru/Be a Councillor in Wales

Mae cynghorwyr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl leol ac i’r ffordd y caiff materion lleol eu trin. Mae angen arnom pobl o bob cefndir a pobl ac amrywiaeth o brofiadau, sy’n adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, i gamu ymlaen a sefyll mewn etholiad.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol na phrofiad gwaith penodol arnoch i ddod yn gynghorydd – y cyfan sydd ei angen yw eich bod yn deall eich cymuned leol a’r hyn sy’n bwysig iddi.

Rydym yn gwahodd pob menyw ledled Cymru i ymuno â’n gweithdy ar-lein am ddim, lle byddwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau eich taith tuag at ddod yn gynghorydd. Byddwch yn dysgu beth mae cynghorwyr yn ei wneud, sut i gyflwyno eich hun ar gyfer prosesau dethol, sut i ymgyrchu, a beth i’w ddisgwyl mewn swydd etholedig.

Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan gynghorwyr presennol yng Nghymru am sut y gwnaethant gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth am y tro cyntaf a sut beth fu eu profiad ers hynny, fel eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth i chi gychwyn ar y daith gyffrous hon.

Byddwch hefyd yn cwrdd â rhwydwaith o fenywod eraill sy’n ystyried sefyll yn etholiadau lleol Cymru yn 2027, oherwydd rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd.

Bydd y gweithdy hwn yn cael ei hwyluso gan gyn-Gynghorydd Tref ac ymgeisydd San Steffan, Yvonne Murphy.

Croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y digwyddiad hwn. Os hoffech gyfrannu yn y Gymraeg neu os oes angen gwasanaeth cyfieithu ar y cyd arnoch, er mwyn ein helpu i wneud y trefniadau angenrheidiol, rhowch wybod i ni erbyn 17:00, 7fed o Fedi.

Councillors make a huge difference to the quality of life of local people and how local issues are dealt with. We need people from all backgrounds and experiences who reflect the communities they serve to put themselves forward for election.

You don’t need any certain qualifications or work experience to become a councillor, you just need to understand your local community and what they care about.

We’re inviting all women across Wales to join our free online workshop where we will give you all the information you need to start your journey towards becoming a councillor. You’ll learn what councillors do, how to put yourself forward for selections, how to campaign, and what to expect in elected office. You’ll hear directly from current councillors in Wales about how they first got involved in politics and what their experience has been like since, so you know what to expect as you set out on this exciting journey ahead. You will also meet a network of other women considering putting themselves forward in the 2027 Welsh local elections, because we’re stronger together.

This workshop will be facilitated by former town councillor and parliamentary candidate Yvonne Murphy.

You are welcome to use Welsh at this event. If you would like to contribute in Welsh or require simultaneous translation, please let us know by 17:00 7th September so that we can make the necessary arrangements.

Ein Siaradwyr Gwadd Our Guest Speaker

Cllr Julie Sangani

Mae’r Cynghorydd Julie Sangani (Llafur Cymru) yn gynrychiolydd ward Heath yng Nghaerdydd.

Councillor Julie Sangani (Welsh Labour) is a representative of Heath ward in Cardiff.

Mae Elect Her wedi ymrwymo i rhoi cymorth cynhwysol a hygyrch sy’n galluogi pob menyw i gymryd rhan llawn yn ein sgyrsiau. Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol drwy gydol y sesiynau, er mwyn sicrhau mynediad cynhwysol.

Drwy gydol ein rhaglen gymorth, rydym yn rhagweld yr hyn sydd ei angen ymlaen llaw ac yn ymateb i anghenion wrth iddynt godi.

Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth ychwanegol arnoch er mwyn cael mynediad, anfonwch e-bost i community@elect-her.org.uk.

Rhaid gwneud ceisiadau o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad a drefnwyd, er mwyn rhoi digon o amser i ni wneud y trefniadau angenrheidiol.

Elect Her is committed to hosting inclusive, accessible support that enable all women to engage fully in our conversations. We will make reasonable adjustments throughout the sessions, so there is universal access. Throughout our programme of support, we anticipate what is needed in advance and respond to needs as they emerge. If you require any further accommodations to access, please email community@elect-her.org.uk. Requests must be made at least 2 working days before the scheduled event in order to enable us time to make arrangements.

Previous
Previous
7 September

Ask Her 1:1 Time with the Elect Her Team

Next
Next
8 September

Byddwch yn Gynghorydd yng Nghymru/Be a Councillor in Wales